Píseň: Llygad wrth lygad

Interpret:
Anhrefn
Album:
Rhedeg i Bohemia
Dwi`n credu mai ffawd oedd y rheswm dros uno
Wedi`n tynnu at ein gilydd gan dejmlau unigryw
Dy waed yn rhedeg trwy fy ngwythiennau
Ac yn teimlo`n bod ni`n uno am byth
Roedd y dechrau yn dda a phopeth yn braf
Ond sut oedda ni i wybod beth oedd o`n blaen.

Llygad wrth lygad; ac yn methu gweld
Beth oedd yn aros amadana ni
Ac yn methu gweld fod rhai petha`n siwr o fod

Mi oedd ein cyn dadau o dras gwahanol 
Efo´u iaith eu hanain a ffordd o fyw
Wedi plannu eu hadau tra yn elynion
A´r casineb yn codi rhwngtha ni
Y boen yn galed a dim gobaith ei leddfu
A does dim fedra i wneud i wella hyn.

Gyd da ni´n wneud yw dadlau ac ymladd
A fedra i´m gweld ffordd allan o hyn
Mi gefaist fy nghalon, ac mae wedi i thorri
Fedra ni´m aros yn un, rhaid dweud ffarwel
Os o´n i´n credu mai ffawd oedd y rheswm dros uno
Mi ydw i´n sicir mai ffawd sy´n ein tynnu i ffwrdd.
Profilový obrázek - Rhedeg i Bohemia
Rhedeg i Bohemia (1990)

1. Duw y dyn eira

2. Llygad wrth lygad

3. Edrych ar y rude boys

4. Addysg ddeniadol?

5. Gwesty cymru

6. Gwlad y rhydd

7. Rhedeg i Paris

8. Y ffordd ymlaen

9. Swings a rowndabowts

10. Neidiwch mewn llawenydd

11. Chwarae soldiwrs